Rydym yn eich gwahodd chi i weld a gwneud sylwadau ar y cynllun adferiad a gweledigaeth ar gyfer canol y dref
Mae'r cynllun wedi'i gomisiynu ar gyfer y canol y dref gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Mae'r cynllun yn adolygu gweithgaredd adfywio yn ganol y dref ac yn ffocwsi ar y blaenoriaethau a'r strategaeth ar gyfer adferiad a thwf yn y dyfodol.
Pam oes angen Cynllun Adferiad?

Mae effeithiau COVID-19 yn enfawr, digynsail ac yn parhau i gymylu'r rhagolygon economaidd. Mae'r effeithiau ar ganol y dref wedi cael eu gyrru gan sawl sioc rhyng-gysylltiedig, cynnwys: siopau angen cau, cadw pellter cymdeithasol, cyflymiad o'r twf siopa ar-lein a rhai manwerthwyr cenedlaethol yn cau.

Mae'r Cynllun Adferiad yn cynnwys tystiolaeth gefnogol ac yn nodi'r cyfleoedd ble mae cronfeydd ac adnoddau (ar gael nawr ac yn y dyfodol) gallu helpu creu effaith positif pan gweithio mewn partneriaeth â busnesau a rhanddeiliaid lleol.

Ble alla i weld y cynllun a gwneud sylwadau?

Gallwch agor copi o'r Cynllun Adferiad gan ddefnyddio'r ddolen isod yn ogystal â gwneud sylwadau gan ddefnyddio'r ffurflen sylwadau neu roi sylwadau ar y map rhyngweithiol. Mae cyfarfod ar-lein yn cael ei gynnal ar 1af Rhagfyr am 6.30pm. Mae hyn yn gyfle i roi eich adborth a gofyn cwestiynau. Ymunwch â'r cyfarfod gan ddefnyddio'r ddolen hon

Lawr yr Uwchgynllun Adferiad

Dewiswch un o’r dewisiadau isod i wybod mwy ac i roi adborth
Rhannwch y dudalen hon


Engagement platform powered by Participatr on behalf of Owen Davies Consulting

Privacy and cookie policy // Website terms of use // Accessibility statement